The Museums, Libraries and Archives Council (MLA) annog addysg
CYFLWYNIADDEFNYDDIO’R FFRAMWAITH MESUR DYSGU SICRHAU CEFNOGAETH MYND GAM YMHELLACHTro Cyntaf
4. SICRHAU CEFNOGAETH
Grwp o blant yn dal papur ffoil lliwgar y maent yn ei ddefnyddio i wneud cerflun tanc yn yr Amgueddfa Rhyfel Ymerodraethol, Duxford

I sicrhau fod Annog Addysg wedi'i sefydlu yn eich amgueddfa, llyfrgell neu archifdy, mae'n hanfodol i gydweithwyr dderbyn fod dysgu'n flaenoriaeth a bod y gymuned ddysgu ehangach yn deall y cyfraniad pwysig y gall eich sefydliad ei wneud.

Eiriolaeth yw codi llais er mwyn cael dylanwad ac ennill 

  • Cefnogaeth ac ymroddiad i ddatblygu gweledigaeth i’r sefydliad mewn perthynas ag Annog Addysg 
  • Cyllid
  • Partneriaid sy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd dysgu
  • Cydnabyddiaeth i rôl amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yn y gwaith o ddatblygu cymuned ddysgu effeithiol.

"Annog Addysg fydd y catalydd sy’n ehangu mynediad, datgloi potensial ac ehangu profiadau dysgu i bawb o fewn yr holl amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd. Bydd yn creu profiad penodol, perthnasol ac ystyrlon i ddefnyddwyr tra ar yr un adeg yn datblygu a hyrwyddo diwylliant dysgu yn y sefydliad."

*

Conrad Peters, Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llundain

Ffoto o Conrad Peters, Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llundain