The Museums, Libraries and Archives Council (MLA) annog addysg
CYFLWYNIADDEFNYDDIO’R FFRAMWAITH MESUR DYSGU SICRHAU CEFNOGAETH MYND GAM YMHELLACHTro Cyntaf
Arweiniad i ddefnyddwyr newydd

Ydych chi'n defnyddio’r safle hwn am y tro cyntaf?

Mae gwefan Annog Addysg yn cynnwys gwybodaeth a deunyddiau dysgu ar-lein.

Mae iddi bump prif adran ac adrannau ychwanegol sy’n eich cyfeirio chi at ragor o help ac adnoddau defnyddiol.

Ymhob adran mae deunyddiau y gallwch eu llwytho i lawr i’w darllen a/neu weithio trwyddynt gyda chydweithwyr. Datblygwyd y deunyddiau hyn i ymateb i’r adborth a gawsom wrth dreialu Annog Addysg a'r pecyn Mesur Dysgu gydag amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd. Gobeithio y byddant o help i chi. Yn Adnoddau a Rhagor o Wybodaeth rydym wedi cynnwys dewislen lawn o ddogfennau y gellir eu llwytho i lawr. Yn yr adran Cysylltu â ni rydym wedi cynnwys dalen adborth er mwyn i chi allu rhoi eich barn a'n helpu i wella'r safle. 

Bydd cynnwys y wefan a’r deunyddiau y gellir eu llwytho i lawr yn berthnasol i chi ar gamau gwahanol yn ystod gweithredu Annog Addysg. Rhagwelwn y byddwch yn eu defnyddio’n hyblyg dros amser, yn ôl eich angen.

Os ydych yn ddefnyddiwr am y tro cyntaf, awgrymwn eich bod yn symud trwy'r safle fel a ganlyn.

1. Yn gyntaf, gweithiwch trwy’r Cyflwyniad i ddysgu mwy am gefndir Annog Addysg, rhai o'r buddion a ddaw o'i ddefnyddio a'r athroniaeth y tu ôl iddo. Yma gallwch wneud y canlynol

  • Llwytho i lawr y fframwaith llawn a chrynodeb
  • Archwilio beth a olygwn wrth ddysgu mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd
  • Dod i wybod am y broses o ddatblygu'r fframwaith a phwy fu'n gysylltiedig â'r gwaith
  • Canfod beth a wnaeth y safleoedd a fu'n treialu'r fframwaith a chanlyniadau’u profiadau

2. Bydd yr adran Defnyddio’r fframwaith yn eich galluogi chi i baratoi ar gyfer cyflwyno Annog Addysg ac wedyn symud ymlaen i'w roi ar waith. Mae’r adran hon yn eich tywys trwy gylch, o’r cynllunio cychwynnol i weithredu. Mae’n cynnwys rhestrau gwirio ar gyfer y fframwaith ei hun a gweithgareddau ymarferol ar gyfer gweithdai a chanllawiau ar gyfer cynnwys eich cydweithwyr yn y broses.

3. Mae Mesur dysgu yn cynnwys canllawiau ar sut i ddechrau asesu canlyniadau dysgu ar gyfer defnyddwyr yn eich sefydliad gan ddefnyddio’r system Canlyniadau Dysgu Cyffredinol a ddatblygwyd ar gyfer y prosiect hwn. Mae Mesur dysgu yn adran sylweddol o’r safle hwn. Bydd yn eich galluogi chi i wneud y canlynol

  • Gweld pam ei bod yn bwysig dechrau mesur canlyniadau dysgu
  • Datblygu ffocws ar gyfer astudiaeth i fesur canlyniadau dysgu yn eich sefydliad
  • Defnyddio’r canlyniadau dysgu cyffredinol i ddatblygu dulliau a chyfryngau sy’n addas ar gyfer anghenion eich astudiaeth
  • Codio, dadansoddi a dehongli’r dystiolaeth y byddwch yn ei chofnodi
  • Meddwl am ddulliau effeithiol o gyflwyno’r dystiolaeth hon i fod yn briodol i’r amcanion yr ydych wedi cytuno arnynt.

Yn ogystal â gwybodaeth gefndir a deunyddiau y gellir eu llwytho i lawr, mae’r adran hon yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol i'ch helpu chi ddatblygu eich dealltwriaeth o'r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol a sut i'w defnyddio. Awgrymwn eich bod yn cael golwg sydyn ar y cynnwys ac wedyn gweithio’n arafach trwy’r camau amrywiol a amlinellir yn yr adran Camau yn y Broses

4. Bydd Sicrhau Cefnogaeth yn cefnogi datblygiad eich gwaith eiriol yn fewnol ac yn allanol. Mae’n cynnwys ystadegau a ffynonellau perthnasol a dau gyflwyniad y gallwch eu llwytho i lawr a’u teilwra i’ch cyd-destun personol chi.

5. Mae Mynd Gam Ymhellach yn eich annog chi i ddefnyddio'r broses hon i gryfhau'r ymrwymiad i ddysgu yn fewnol a thrwy weithio mewn partneriaeth ag eraill. Mae’n cynnwys deunyddiau arweiniad ac astudiaethau achos sy’n dangos sut y bu sefydliadau a fu’n treialu Annog Addysg a’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol yn llwyddiannus yn codi proffil dysgu ac ysgogi datblygiad proffesiynol. Awgrymwn eich bod yn pori yn yr adran hon o bryd i’w gilydd wrth i chi weithio trwy Defnyddio'r Fframwaith a Mesur Dysgu. Mae’n rhoi cyd-destun ehangach i’r ddwy adran honno ac yn canolbwyntio ar y newidiadau dyfnach sy’n angenrheidiol er mwyn gosod dysgu wrth wraidd gwaith amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd.

6. Ewch i Adnoddau a Rhagor o Wybodaeth i gael geirfa, i ddarllen rhai cwestiynau cyffredin ac i ganfod adnoddau perthnasol eraill a chysylltiadau pwysig.

Gobeithio y cewch y safle’n ddiddorol, ac y bydd yn eich ysgogi a’ch cefnogi chi wrth ddatblygu amgueddfa, archifdy neu lyfrgell gynhwysol a hygyrch sy'n annog ac yn cefnogi dysgu.

Photo of Jonathan Douglas, Head of Learning and Access, MLA