Mynediad
Canfod rhwystrau sy’n atal pobl rhag cyfrannu a datblygu strategaethau i gael gwared arnynt.
Gall y rhain fod yn rhwystrau:
- Corfforol
Ydy adeiladau, casgliadau, digwyddiadau, yn hawdd i bobl fynd atynt yn gorfforol? - Deallusol
Ydyn nhw’n eithrio pobl nad oes ganddynt wybodaeth gefndir eang neu bobl y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddyn nhw? All pobl ag anableddau dysgu'u defnyddio? - Diwylliannol
Ydyn ni’n adlewyrchu a chynrychioli diddordebau, profiadau bywyd a diwylliant y gymuned a wasanaethir? - O ran agweddau
Ydy’r amgylchedd yn groesawgar, yn enwedig i ddefnyddwyr newydd? Oes gan staff agwedd agored at amrywiaeth? Ydyn ni'n canolbwyntio ar ein defnyddwyr a'n darpar ddefnyddwyr? - Cyllid
Ydy unrhyw daliadau a godir yn atal pobl ar incwm isel? Ydy teuluoedd, pensiynwyr, pobl ddi-waith yn gallu fforddio defnyddio’n gwasanaethau?
Casgliadau ac adnoddau
- Defnyddiwn y term hwn i gynnwys casgliadau, y stoc llyfrau, deunydd archif a daliadau eraill.
Cymunedau
- Dyma ddefnyddwyr presennol a phosibl ein gwasanaethau.
Ymgynghori
- Trwy ymgynghori, mae pobl yn cael cyfle i siapio’r gwasanaethau a ddarparwn fel eu bod yn cael eu hysgogi i fynd ati i ddysgu a mwynhau'u hunain.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Agwedd systematig at ddiweddaru sgiliau'n broffesiynol yw Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Mae’n cydnabod bod gan bawb anghenion dysgu gwahanol ac, er mwyn rhoi sylw i'r anghenion hyn, mae'n rhaid inni gynllunio ymlaen. Yr egwyddor y tu ôl i DPP yw y dylai fod yn broses barhaus neu gydol gyrfa. Mae’n cynnwys yr holl weithgareddau sy’n arwain at ddysgu, a gallant fod yn rhaglenni dysgu ffurfiol yn y gwaith neu weithgareddau anffurfiol. Mae’n arfer proffesiynol da, sy’n gwella rhagolygon gyrfa ac yn arwain at fwy o hyder personol.
Polisi Addysg
- Mae llawer o amgueddfeydd ac archifdai wedi llunio polisïau addysg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhain fel arfer yn crynhoi'r athroniaeth gyffredinol, credoau a'r agwedd gyffredinol at addysg, a sut mae'n cysylltu â swyddogaethau allweddol eraill. Mae polisi addysg yn pennu’r cyfeiriad eang ar gyfer addysg ac yn delio gyda meysydd megis cynulleidfaoedd, ymchwil marchnad, anghenion dysgu, mathau ac ansawdd y ddarpariaeth, datblygu, gwerthuso a marchnata arddangosfeydd, yr adnoddau sydd ar gael a'r goblygiadau, hyfforddi staff a gwirfoddolwyr, a gweithio mewn partneriaeth.
Mewn rhai mannau defnyddir y term ‘addysg’ o hyd i gyfeirio at waith gyda grwpiau ysgol yn unig ac at ei gilydd ystyrir erbyn hyn fod y gair ‘dysgu’ yn arwydd o agwedd/athroniaeth ehangach. (Gweler Dysgu)
Gwerthuso
- Asesu prosiect neu ddigwyddiad yn erbyn ei amcanion; barn am werth yr hyn a gyflawnwyd gan y prosiect. Nid ydym yn gwerthuso’r defnyddwyr eu hunain onid ydynt wedi pennu amcanion dysgu penodol - efallai y byddai'n bosibl wedyn gwerthuso a yw eu hamcanion dysgu wedi'u cyflawni.
Canlyniadau Dysgu Cyffredinol
- System o ddefnyddio pump grŵp cyffredinol o ganlyniadau dysgu i gategoreiddio’r canlyniadau dysgu personol y mae defnyddwyr amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yn eu disgrifio a'u profi.
Dehongli
- Fe’i defnyddir mewn amgueddfeydd yn arbennig i ddisgrifio a/neu esbonio i eraill ystyr a chyd-destun gwrthrychau - h.y. y deunydd cysylltiedig â gwrthrychau a lunnir ar gyfer arddangosfeydd ayb. Fe'i defnyddir hefyd i ddisgrifio'r ffyrdd y mae pobl yn deall a dehongli'u byd – canfod-ystyr personol’.
Dysgu
- Mae dysgu’n digwydd pan fydd rhywun yn cael ei ysgogi, ei gymell neu ei ysbrydoli a rhyw fath o newid personol yn digwydd. Defnyddir y term dysgu yn hytrach nag ‘addysg’ oherwydd ei fod yn pwysleisio bod yr holl ddefnyddwyr ac aelodau staff yn cyfrannu at weithgareddau, ac yn elwa arnynt, gweithgareddau sy'n gwella sgiliau, dealltwriaeth, cynhwysiant ac sy'n newid ymddygiad ac agweddau. Mae hefyd yn pwysleisio bod y gweithgareddau hyn wedi’u canoli ar brofiadau’r dysgwr.
- Mewn rhai sefydliadau, defnyddir y term ‘addysg' i gyfeirio at waith gyda grwpiau ysgol er ei fod mewn mannau eraill yn ymgorffori dysgu ar gyfer pawb. Mae rhai yn teimlo y gall y term ‘addysg' fod yn gamarweiniol gan ei fod yn arwydd o agwedd gul sy'n anwybyddu potensial ehangach dysgu gydol oes anffurfiol i bawb yn yr amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd.
Lladmeryddion dysgu
Gall y rhain fod yn aelodau staff, ymddiriedolwyr neu aelodau etholedig, gwirfoddolwyr neu ffrindiau sy'n gallu
- cyflwyno achos teilwng dros ddysgu fel blaenoriaeth i'r amgueddfa, archifdy neu lyfrgell – proffil ac adnoddau – eu staff, cyllidebau, amser, mannau gwag
- gweithredu fel eiriolwyr angerddol gyda rhanddeiliaid allanol sydd â chylch gwaith dysgu- megis Cynghorau Dysgu a Sgiliau, AALlau
- perswadio noddwyr o’r cyfraniad gwerthfawr ac unigryw y mae amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yn ei wneud i ysgogi dysgu
- cael defnyddwyr i fynd ati i ddysgu a'u hannog a'u cefnogi’n effeithiol yn eu dysgu
- parhau i ddysgu a newid eu hunain o ganlyniad i'w profiadau.
Amgylcheddau dysg
- Mae'n cynnwys amgylcheddau ffisegol a rhithwir, ynghyd â llu o ffactorau eraill - megis croeso'r staff a deialog â defnyddwyr.
Cyfleoedd dysgu
- Mae hwn yn cyfeirio at amrywiaeth eang o weithgareddau, rhaglenni a phrofiadau a ddarperir gan amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd. Gallant gynnwys rhaglenni sgiliau gwybodaeth, sesiynau blasu TGCh, grwpiau darllen, dosbarthiadau nos, ysgolion dydd, gweithdai, cynadleddau, seminarau, digwyddiadau i ddechreuwyr, diwrnodau agored, adnoddau dysgu ar y we, llyfrau i’w benthyca, catalogau, sgyrsiau/ymweliadau, sioeau teithiol, arddangosfeydd, rhaglenni profiad gwaith, rhaglenni ysgolion, clybiau ar ôl ysgol, rhaglenni ymchwil.
Sefydliadau dysgu
- Sefydliad lle mae pobl ar bob lefel eisiau herio a newid pethau, yn chwilio’n barhaus am bersbectifau newydd, ac yn newid eu ffordd o feddwl a’u hymddygiad yn gyson.
Strategaeth dysgu a mynediad
- Mae strategaeth dysgu a mynediad yn sefydlu cynllun ar gyfer datblygu darpariaeth i ysbrydoli a chefnogi dysgu cynhwysol a hygyrch. Mae’n ymwneud â newid a gwella yn hytrach na disgrifio’r status quo. Mae strategaeth dysgu a mynediad yn gyfrwng gweithio sy'n gosod gweledigaeth ar gyfer dysgu a mynediad, yn gosod nodau clir ac wedyn yn disgrifio sut y cyflwynir y nodau hynny dros gyfnod o amser. Er y gall sefydliad feddu ar weledigaeth yn y tymor hwy ar gyfer dysgu a mynediad, dylai strategaeth gwmpasu cyfnod o ryw ddwy flynedd. Mae Annog Addysg yn rhoi man cychwyn da ar gyfer datblygu hyn. Mae’n galluogi amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd i asesu cryfderau a gwendidau yr hyn y maent yn ei wneud ac wedyn pennu blaenoriaethau ar gyfer gwella.
Arddulliau dysgu
- Mae gan y theori arddull dysgu oblygiadau sylweddol o ran y ffordd y mae amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yn cynllunio ac yn cyflwyno'u darpariaeth ddysgu. Erbyn hyn gwyddys fod pobl yn ystyried ac yn prosesu gwybodaeth mewn ffyrdd gwahanol iawn. Mae nifer o fodelau arddulliau dysgu i'w cael.
- Er enghraifft, nododd Howard Gardner nad oes gennym un IQ sefydlog, ond amrediad o saith neu wyth o leiaf o wahanol fathau o ddeallusrwydd. Tueddwn i ddatblygu mwy ar rai o'r mathau hyn a dyma'r rhai yr ydym yn hoffi'u defnyddio. Mae llawer o'r gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd ar wella’r dysgu ac addysgu mewn ysgolion, a hyrwyddir gan Brifysgol yr Oes Gyntaf, yn seiliedig ar ymchwil Gardner.
- Mae Honey a Mumford wedi datblygu rhestr o arddulliau dysgu i helpu pobl ddeall eu hoff ddulliau dysgu personol. Mae hyn yn tybio bod gennym un arddull dysgu sy’n tra-arglwyddiaethu, gweithredydd, ystyriwr, crynhöwr neu bragmatydd, ac er mwyn dod yn ddysgwyr gwirioneddol effeithiol, mae angen inni ddatblygu’n gallu i ddysgu mewn sawl gwahanol ffordd. (gweler hefyd meddylfryd presennol – arddulliau dysgu a dulliau dysgu gwahanol – dogfen y gellir ei llwytho i lawr)
Mesur (cyf: mesur dysgu)
- System o gymharu a chyferbynnu nodweddion rhywbeth gan ddefnyddio unedau safonol. Defnyddiwn y Canlyniadau Dysgu Cyffredinol fel unedau safonol i archwilio ac asesu nodweddion dysgu mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ac adrodd ar hyn gan ddefnyddio data rhifol. Rydym hefyd yn ‘gallu mesur’ dysgu (ei ddeall) gan ddefnyddio’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol a’i ddisgrifio gan ddefnyddio data ansoddol. Mae’r ddau fath o fesur yn cyfuno i roi ehangder trwy ddata ystadegol a dyfnder trwy adroddiadau disgrifiadol.
Partneriaid
Defnyddir y term partneriaid i ddisgrifio’r gwahanol fathau o sefydliadau y gallwn weithio â hwy i wella ehangder ac ansawdd y ddarpariaeth ddysgu i ddefnyddwyr. Gallai’r partneriaid gynnwys:
- amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd ac archifdai eraill
- adrannau eraill yn eich mam-sefydliad
- cyllidwyr; cyrff statudol; cyrff rhanbarthol e.e.: awdurdodau datblygu rhanbarthol
- awdurdodau addysg; adrannau dysgu gydol oes; gwasanaethau ieuenctid
- grwpiau cymunedol, gwirfoddol a diddordeb arbennig
- sefydliadau preswyl
- cyrff celfyddydol
- fforymau twristiaeth
- sefydliadau masnachol
- y cyfryngau cenedlaethol a lleol
- cynghorau dysgu a sgiliau, cyswllt busnes
- gwasanaethau carchardai
- grwpiau amgylcheddol; ymddiriedolaethau iechyd, awdurdodau iechyd, hosbisau
- pobl gyda thalentau a sgiliau penodol megis artistiaid, gweithwyr addysg llawrydd, arbenigwyr TG, awduron, crefftwyr, academyddion, actorion.
Dulliau ymchwil
- Y dulliau a ddefnyddir i ymchwilio i ddysgu. Er enghraifft, gallech gynnal arolwg (y dull) gan ddefnyddio holiadur (y cyfrwng).
Cyfryngau ymchwil
- Term sy’n cyfeirio, er enghraifft, at holiaduron, arweiniad cyfweld, arweiniad i grwpiau ffocws a ddefnyddir i gasglu data.
Adnoddau
- Gweler casgliadau ac adnoddau
Rhanddeiliaid
- Unrhyw berson neu sefydliad sydd â budd neu ddiddordeb yn yr amgueddfa, archif neu lyfrgell.
Staff
- Mae staff yn cynnwys pawb sy’n gweithio yn yr amgueddfa, archifdy neu lyfrgell, yn derbyn cyflog neu beidio.
Defnyddwyr
- Unrhyw un sy’n defnyddio’ch gwasanaethau, er enghraifft, ymwelwyr â’r amgueddfa, archifdy neu lyfrgell; pobl sy'n gwneud ymholiadau; myfyrwyr ac academyddion; aelodau o’ch cyrff llywodraethol.

