The Museums, Libraries and Archives Council (MLA) annog addysg
CYFLWYNIADDEFNYDDIO’R FFRAMWAITH MESUR DYSGU SICRHAU CEFNOGAETH MYND GAM YMHELLACHTro Cyntaf
Cwestiynau Cyffredin

Amgueddfa fechan sydd gen i ac mae Annog Addysg fel petai wedi’i anelu at sefydliadau mawr. Ydy hyn yn wir?

  • Mae Annog Addysg i fod i gefnogi pob amgueddfa, archifdy a llyfrgell i ddatblygu gwasanaethau dysgu cynhwysol. Mae wedi cael ei dreialu gyda gwasanaethau cymunedol bychain yn ogystal â chyda sefydliadau cenedlaethol mawr. Mae’r wefan wedi’i datblygu i ymateb i anghenion amrediad eang o sefydliadau, o ran cylch gwaith a maint. Oherwydd hyn, efallai nad yw yr holl brosesau a’r iaith fel petaent yn berthnasol i chi yn syth. Efallai y bydd angen i chi eu dehongli ar gyfer eich amgylchiadau chi. Os bydd angen help arnoch chi yn hyn o beth, awgrymwn eich bod yn cysylltu â thîm dysgu a mynediad eich Asiantaeth Ranbarthol yn y lle cyntaf. Efallai y gallant hwy eich rhoi mewn cysylltiad ag eraill a all eich cefnogi neu sy'n mynd trwy'r broses eu hunain.


Faint mae’n ei gymryd i weithio trwy Annog Addysg? 

  • Mae hyn yn dibynnu ar faint eich sefydliad, pwy sy’n dod yn gysylltiedig a faint yr ydych yn bwriadu’i gyflawni. Bydd gweithio trwy restrau gwirio Annog Addysg gyda'ch tîm fwy na thebyg yn cymryd dau i dri sesiwn o ryw ddwy awr yr un ynghyd â rhywfaint o waith ymgyfarwyddo unigol cyn hynny. Ar ôl hyn, bydd angen i chi benderfynu ar beth i ganolbwyntio ac efallai y bydd hyn yn golygu mwy o waith gyda thîm ehangach o gydweithwyr. Unwaith i chi osod blaenoriaethau a llunio cynllun gweithredu, bydd angen rhoi gwybod i bobl amdanynt, eu gweithredu a'u monitro. Mae’n debygol y bydd y cynllun a ddatblygwch yn cynnwys atebion sydyn a thargedau yn y tymor hwy. Roedd yr amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd a fu’n treialu’r fframwaith a’r canlyniadau dysgu cyffredinol wedi ymrwymo cyfnodau gwahanol iawn o amser. Fel gyda phopeth, po fwyaf o amser ac ymdrech a roddwch CHI, mwyaf yw'r effaith gyffredinol yn debygol o fod ar eich sefydliad, eich gwasanaethau a phrofiadau dysgu'r defnyddwyr.

Rwy’n ceisio darbwyllo fy mhennaeth gwasanaeth i dderbyn hwn ond heb fawr o lwyddiant hyd yma. Unrhyw awgrymiadau?

  • Gall darbwyllo uwch aelod o staff i gefnogi a hyrwyddo Annog Addysg wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w weithrediad llwyddiannus mewn amgueddfa, archifdy neu lyfrgell. Wrth geisio darbwyllo’ch uwch gydweithwyr, byddai fanteisiol petaent yn gallu deall bod gweithio gyda’r fframwaith yn gallu codi ymwybyddiaeth o'r cyfraniad y mae amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yn ei wneud i agendâu dysgu ehangach, a all arwain at ryddhau cyllid a chydnabyddiaeth.
  • Fodd bynnag, mae'n swnio fel petaent angen deall mwy am Annog Addysg a rôl amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn y gwaith o gefnogi dysgu cyn y gallwch eu hargyhoeddi. Mae’r wefan yn cynnwys astudiaethau achos gan amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd a fu’n treialu’r fframwaith sy’n dangos sut y bu iddynt elwa o’r gwaith. Siaradwch hefyd â’ch Asiantaeth Ranbarthol am brofiadau cynlluniau peilot lleol.
  • Awgrymwn eich bod yn defnyddio’r cyflwyniadau hyn a’r wybodaeth gefndir i’ch helpu chi i gyflwyno’ch achos a chodi’ch hyder o ran darbwyllo eraill.
  • Llwythwch i lawr Argyhoeddi cydweithwyr.ppt ac Eiriol Mewnol.ppt o’r Llyfrgell Llwytho i lawr


Sut y gallwn gael cydweithwyr eraill yn gysylltiedig?

  • Gydag Annog Addysg mae rôl i bawb yn y gwaith o gefnogi dysgu - dyna pam fod angen i'ch holl gydweithwyr ddeall beth y mae hyn yn ei olygu a gweld sut y gallent gyfrannu. I rai, gall hyn olygu newid mawr yn y ffordd y maent yn gweld eu rôl ac yn y ffordd y byddant yn ymgymryd â’u cyfrifoldebau. Gall olygu hefyd y bydd angen i staff gyda chylch gwaith sy’n ymwneud â dysgu ailddiffinio’u rolau wrth gefnogi dysgu, dod yn lladmeryddion dysgu ac ymgorffori cyfraniadau cydweithwyr o wahanol dimau o fewn gwasanaethau dysgu. Dechreuwch drwy godi ymwybyddiaeth o'r ffordd y mae’ch sefydliad yn cefnogi dysgu a'u helpu i feddwl am sut mae pobl yn dysgu a'r arddulliau dysgu gwahanol. Bydd angen iddynt hefyd fod yn ymwybodol o sut mae pobl yn cael mynediad i ddysgu a’r rhwystrau a all fod yn eu hatal. Mae adnoddau ar gael i’ch helpu chi i gyflwyno cydweithwyr i’r materion dysgu ehangach a’u cael i ddod yn gysylltiedig ag Annog Addysg.
  • Edrychwch ar yr adnoddau hyn i gael rhagor o arweiniad ac i ganfod sut aeth eraill ati i ddatrys y mater hwn:
    Siarad am ddysgu
  • Llwythwch i lawr Argyhoeddi cydweithwyr.ppt a Gweithgarwch arddulliau dysgu o’r Llyfrgell Llwytho i lawr


Sut y gallwn gynnwys defnyddwyr ein gwasanaethau yn rhagweithiol?

  • Mae Annog Addysg yn rhagdybio y bydd ymgynghori a chysylltu'n digwydd gyda defnyddwyr i weld beth sydd ei angen ar y defnyddwyr a chanfod sut y gallant gyfrannu’n fwy rhagweithiol at gyflwyno’ch gwasanaethau. Os ydych yn cynnwys defnyddwyr, byddwch yn realistig ynghylch beth y gallwch ei gyflawni a’r amserlenni ar gyfer datblygu perthynas. Gall gweithio mewn partneriaethau â grwpiau cymunedol eraill eich helpu i gysylltu â phobl nad ydynt yn defnyddio’ch gwasanaethau ar y funud a phobl nad oes ganddynt gysylltiad blaenorol â chi, a’u troi yn ddefnyddwyr newydd. Un ffordd o ddechrau ar y broses ymgynghori yw gweithio gyda grwpiau defnyddwyr sydd eisoes yn bodoli, megis aelodau clwb gwaith cartref neu grwpiau darllen er mwy gofyn iddynt am eu dysgu ac wedyn adeiladu ar hyn i gynllunio strategaeth fwy uchelgeisiol i gynnwys grwpiau sy’n anodd cyrraedd atynt a phobl nad ydynt yn defnyddio’ch gwasanaethau o gwbl. 
  • Ewch i adran 5 y wefan a'r modiwl Ymgynghori â defnyddwyr a’r rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr
    Ymgynghori â defnyddwyr a’r rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng polisi addysg a strategaeth ddysgu a mynediad?

  • Mae strategaeth ddysgu a mynediad yn sefydlu cynllun ar gyfer datblygu darpariaeth i ysbrydoli a chefnogi dysgu a gwella mynediad. Mae’n ymwneud â newid a gwella yn hytrach na disgrifio’r status quo. Mae strategaeth ddysgu a mynediad yn gyfrwng gweithio sy'n gosod gweledigaeth ar gyfer dysgu, yn gosod nodau clir ac wedyn yn disgrifio sut y cyflwynir y nodau hynny dros gyfnod o amser. Defnyddir y term dysgu yn hytrach nag ‘addysg’ oherwydd ei fod yn pwysleisio bod yr holl ddefnyddwyr ac aelodau staff yn cyfrannu at weithgareddau, ac yn elwa arnynt, gweithgareddau sy'n gwella sgiliau, dealltwriaeth, cynhwysiant ac sy'n newid ymddygiad ac agweddau. Mae hefyd yn pwysleisio bod y gweithgareddau hyn wedi’u canoli ar brofiadau’r dysgwr.
  • Mae llawer o amgueddfeydd a rhai archifdai wedi llunio polisïau addysg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhain fel arfer yn crynhoi'r athroniaeth gyffredinol, credoau a'r agwedd gyffredinol at addysg - beth yw ystyr 'addysg' a sut mae'n cysylltu â'i swyddogaethau allweddol eraill. Mae polisi addysg yn pennu’r cyfeiriad eang ar gyfer addysg ac yn delio gyda meysydd megis cynulleidfaoedd, ymchwil marchnad, anghenion dysgu, mathau ac ansawdd y ddarpariaeth, datblygu, gwerthuso, marchnata arddangosfeydd, yr adnoddau sydd ar gael a'r goblygiadau, hyfforddi staff a gwirfoddolwyr, a gweithio mewn partneriaeth. Mewn rhai amgueddfeydd ac archifdai defnyddir y term ‘addysg' i gyfeirio at waith gyda grwpiau ysgol yn hytrach na dysgu anffurfiol ar gyfer pob oed.

Sut gallaf ddefnyddio Annog Addysg i ddatblygu strategaeth ddysgu a mynediad?

  • Datblygodd sawl un o’r safleoedd peilot strategaeth ddysgu a mynediad wedi’i seilio ar y pedair egwyddor allweddol yn Annog Addysg gan gynnwys yr Amgueddfa Wyddoniaeth a Diwydiant ym Manceinion (MSIM) a Llyfrgelloedd, Treftadaeth a Safonau Masnach Swydd Warwick.
  • Llwythwch i lawr Mynediad ac Ymwybyddiaeth o Ddysgu yn MSIM a Datblygu strategaeth ddysgu gydol oes yn Swydd Warwick o’r Llyfrgell llwytho i lawr.

Rydw i wedi rhoi cynnig ar y gweithgarwch codio yn yr adran Mesur Dysgu a hoffwn siarad ag eraill am eu profiad. Beth ddylwn i wneud?

  • I ddechrau awgrymwn eich bod yn siarad â'ch cydweithwyr yn y gwaith a'u hannog hwy i wneud yr un ymarfer. Hefyd gallech gysylltu â’ch Asiantaeth Ranbarthol i weld a ydynt yn trefnu unrhyw ddigwyddiadau rhwydweithio neu weithdai ar ddefnyddio’r deunyddiau hyn. Efallai y bydd eich cais yn eu hysgogi i drefnu rhywbeth. Fel arall, efallai y gallant eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun mewn sefydliad sy’n agos atoch sydd hefyd yn defnyddio'r canlyniadau dysgu cyffredinol, er mwyn i chi allu rhannu profiadau.


Rydym wedi defnyddio rhestrau gwirio Annog Addysg i bennu meysydd i’w datblygu. Rydym yn awr angen arian a phobl i weithio arnynt. Sut gallwn ni gael arian i wneud hyn?

  • Mae’r MLA a’r Asiantaethau Rhanbarthol yn gweithio ar lefel genedlaethol a rhanbarthol i ddylanwadu ar gyllidwyr allanol megis Cronfa Dreftadaeth y Loteri, yr Adran Addysg a Sgiliau a Chynghorau Dysgu a Sgiliau i fabwysiadu Annog Addysg fel gofyniad cyllido. Llwyddodd llawer o’r amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd a dreialodd Annog Addysg i gael cyllid sylweddol ar gyfer prosiectau i fynd i’r afael â’r meysydd a bennwyd ganddynt ar gyfer eu datblygu.
  • Cewch wybod mwy yn yr adran Cynyddu cyllidebau dysgu 

Rydym i gyd yn awyddus i weithio ar Annog Addysg ond rydym i gyd mor brysur a dim amser i roi cychwyn arni.

  • Y staff dysgu, allgymorth a mynediad a arweiniodd y broses yn yr amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd a dreialodd Annog Addysg. Trwy siarad am ddysgu gyda chydweithwyr, roeddynt yn gallu dangos ei fod yn ganolog i’r hyn y mae pawb yn y sefydliad yn ei wneud. Nid yw Annog Addysg yn ei hanfod yn broses ychwanegol, ond yn strategaeth ar gyfer gweddnewid eich gweithgareddau craidd fel eu bod yn canolbwyntio ar ddysgu. Cafodd yr effaith fwyaf lle'r oedd y safleoedd peilot wedi gallu’i wreiddio yn eu prosiectau a'u blaenoriaethau corfforaethol - megis adolygu gwasanaeth, arddangosfa neu adnodd dysgu newydd neu fel ffocws ar gyfer gweithio gyda chydweithwyr newydd pan oedd adrannau’n cael eu cyfuno.
  • Ewch at yr adnoddau hyn i gael gwybod mwy:
    Siarad am ddysgu
    Argyhoeddi cydweithwyr
    Creu amgylchedd dysgu
    Codi’r proffil
  • Neu, llwythwch i lawr y Rhestr wirio fer o’r Llyfrgell llwytho i lawr.

Sut mae Annog Addysg yn cysylltu â safonau eraill?

  • Gall rhai o weithgareddau Annog Addysg eich helpu chi i ddarparu tystiolaeth i ddangos eich cyflawniadau ar gyfer cynlluniau safonau eraill, megis Buddsoddwyr mewn Pobl, QAA (Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch), EfQM (y Fframwaith Ewropeaidd er Rheoli Ansawdd), Gwerth Gorau, PQASSO (System Sicrhau Ansawdd Ymarferol i Sefydliadau Bach) a'r Nod Siarter. Yn ddiweddar mae MLA wedi adolygu’r holl gynlluniau safonau sy’n cael effaith ar amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd. Mae crynodeb o'r gwaith ar gael ar wefan MLA.
    Mae’r dull ymgynghori yn allweddol ar gyfer symud Annog Addysg yn ei flaen fel gofyniad wrth gynnal adolygiadau Gwerth Gorau  
  • www.mla.gov.uk/

Beth yw’r berthynas rhwng Annog Addysg a Chofrestru Amgueddfeydd?

  • Ni fydd defnyddio Annog Addysg yn ofyniad dan y cynllun Cofrestru diwygiedig. Serch hynny, mae’r Cynllun Cofrestru’n edrych ar dystiolaeth amrywiol, ac os ydych wedi ymgymryd ag unrhyw rai o weithgareddau Annog Addysg, mae'n debyg y bydd yn dystiolaeth dda i ddangos eich bod wedi cyflawni’r gofynion dan Adran 3 (“Gwasanaethau i Ddefnyddwyr”) sy’n ymwneud â dysgu a mynediad. Bydd eich ymgynghorydd cofrestru yn yr Asiantaeth Ranbarthol yn gallu trafod hyn gyda chi’n fanwl.
Photo of Jonathan Douglas, Head of Learning and Access, MLA