The Museums, Libraries and Archives Council (MLA) annog addysg
CYFLWYNIADDEFNYDDIO’R FFRAMWAITH MESUR DYSGU SICRHAU CEFNOGAETH MYND GAM YMHELLACHTro Cyntaf
2. DEFNYDDIO’R FFRAMWAITH >> Gweithredu

Gweithredu

Strategaeth ddysgu a mynediad

Dyn yn weldio gyda sbarciau'n hedfan mewn Amgueddfa Ddiwydiannol

Page 4 of 4

Dyma brofiad Robin Holgate a Suzanne Spicer yn Amgueddfa Wyddoniaeth a Diwydiant Manceinion

Mi ddefnyddion ni'r rhestrau gwirio asesu i bennu rhai o'n prif wendidau. Mi benderfynon ni ymgorffori dysgu yn holl weithgareddau’r Amgueddfa trwy wneud y canlynol

  • Datblygu gweledigaeth ar gyfer dysgu a mynediad i ymgyrraedd ati
  • Creu ethos dysgu yn y sefydliad
  • Darparu amgylchedd dysgu o ansawdd da ar gyfer pob defnyddiwr

Mi ysgrifennon ni strategaeth ddysgu a mynediad, yn amlinellu pedwar nod fel blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Defnyddiwyd prif adrannau Annog Addysg gennym fel meini prawf.

Ein nodau yw:

  • creu amgylchedd croesawgar sy'n ysbrydoli ac yn cefnogi dysgu trwy ddatblygu staff a chyfleusterau
  • pennu anghenion a chyfleoedd trwy ymgynghori ag ymwelwyr presennol ac ymwelwyr posibl a'u cael i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu cyfleoedd dysgu newydd
  • gwneud y gorau posibl o ran rhoi mynediad i’n casgliadau a’n hadnoddau trwy ddatblygu gwasanaethau a rhaglenni newydd i fodloni anghenion cynulleidfaoedd
  • gweithio’n greadigol gyda phartneriaid i ddarparu cyfleoedd dysgu

Wedyn, cynhyrchwyd Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Ddysgu a Mynediad gennym a oedd yn rhoi manylion ein gweithgareddau a’r canlyniadau deilliedig i gyflawni’r nodau blaenoriaethol hyn.

Darllenwch fwy am brofiadau safleoedd peilot eraill trwy lwytho i lawr y ffeiliau ar Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth, Essex a Llyfrgelloedd Knowsley

Ewch yn awr i ‘Be nesa?’ er mwyn symud ymlaen

blaenorol

1234

Merch yn sodro cerflun mawr o wydr a metel
Gweithredu
DOWNLOADS