Mae Saira Ahmed yn disgrifio sut y bu curaduron y casgliadau adrannol yn cydweithio yng Ngholeg Prifysgol, Llundain
Mae ein pedair amgueddfa a’n casgliadau adrannol niferus wedi gweithredu’n annibynnol ar ei gilydd yn draddodiadol – yn rhannol oherwydd eu bod ar wasgar o gwmpas campws mawr a chymhleth y Brifysgol; hefyd oherwydd bod llawer yn cael eu cyllido gan adrannau unigol gyda gwahanol gylchoedd gorchwyl a gweithdrefnau.
Rhoes Annog Addysg gyfle unigryw i ni asesu ein cryfderau a’n gwendidau ein hunain, ac yna eu rhannu.
Bu i ni ffurfio Tîm Amgueddfeydd a Chasgliadau i asesu ein cryfderau a’n gwendidau ni i gyd.
Fe ddechreuon ni siarad am yr hyn yr oedd pob casgliad yn ei wneud i gefnogi dysgu o fewn y brifysgol ac yn ehangach, gyda’r gymdeithas anacademaidd.
Fe ddechreuon ni gyfathrebu’n fwy rheolaidd, gan ddefnyddio iaith gyffredin (e.e. dysgu gydol oes, ymgynghori â chynulleidfaoedd, gwerthuso, mynediad). Fe ddechreuon ni gynllunio gweithgareddau a digwyddiadau gyda’n gilydd, a rhannu enghreifftiau o arfer da.
O ganlyniad i weithio gydag Annog Addysg, fe gyflogon ni ymgynghorydd marchnata i gydweithio â ni i greu Strategaeth Farchnata Casgliadau Coleg Prifysgol Llundain.
Fe gawson ni ein diwrnod cwrdd i ffwrdd cyntaf i Amgueddfeydd a Chasgliadau i ddatblygu datganiad o genhadaeth ac adolygu ein Cynllun Strategol.
Mae Annog Addysg wedi bod o gymorth gwirioneddol i ni greu tîm cydlynus.
Efallai y byddwch yn parhau i orfod argyhoeddi rhai o’ch cydweithwyr am Annog Addysg.
Bydd yr adran nesaf ‘Argyhoeddi cydweithwyr’ yn eich cynorthwyo gyda hyn.