The Museums, Libraries and Archives Council (MLA) annog addysg
CYFLWYNIADDEFNYDDIO’R FFRAMWAITH MESUR DYSGU SICRHAU CEFNOGAETH MYND GAM YMHELLACHTro Cyntaf
2. DEFNYDDIO’R FFRAMWAITH >> Paratoi'r ffordd >> Siarad am ddysgu

Siarad am ddysgu

Profiad Samantha Heywood

Staff from Poole Culture and Community Learning Department discuss Inspiring Learning for All.

Page 2 of 3

Mae Samantha Heywood yn disgrifio profiad y grŵp Cool Pink yn Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth

Mae Annog Addysg wedi rhoi i’r grŵp Cool Pink iaith a fframwaith i’w defnyddio pan fyddwn yn disgrifio beth yw dysgu mewn amgueddfeydd, a beth y gall fod, ac i egluro ein blaenoriaethau a’n dulliau gweithio.

Mae’n rhoi gwell syniad o beth mae ymadroddion cyfoes fel ‘dysgu gydol oes’ yn olygu yn ein cyd-destun ni, i gydweithwyr nad ydynt yn arbenigwyr dysgu. Rydym wedi tystio i sawl ‘eiliad o ddarganfod’ pan yr oedd yn eglur fod ein cydweithwyr wedi deall a rhannu ystyr y gair ‘dysgu’.

Bu modd i ni symud ymlaen â diffiniad newydd o ddysgu sy’n cwmpasu mwy o staff a mwy o’r hyn a wneir ganddynt. Rydym wedi defnyddio’r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol o’r pecyn Mesur Dysgu i ddiffinio a chytuno ar ffocws prosiectau arbennig.
Yn benodol, defnyddiwyd y rhain gennym i friffio dylunwyr Amgueddfa newydd Churchill yn Ystafelloedd Rhyfel y Cabinet. Rydym bellach yn medru cyfleu ac egluro prosiectau i eraill yn fwy eglur, a chodi cyllid ar eu cyfer. Drwy ddefnyddio’r CDCau rydym hefyd wedi datblygu ein ffordd o feddwl ynglŷn â’r broses werthuso a sut yr adroddir arni.

blaenorol

123

nesaf