Bydd gweithredu Annog Addysg yn galw am arweiniad ar lefel strategol ac ar draws y sefydliad. Bydd clustnodi lladmeryddion dysgu yn cynorthwyo'r broses hon.
Bydd Lladmeryddion dysgu:
Yn cyflwyno achos teilwng dros ddysgu fel blaenoriaeth. Mae hyn yn cynnwys proffil ac adnoddau – staff, cyllidebau, amser, mannau
Yn gweithredu fel eiriolwyr angerddol gyda rhanddeiliaid allanol - megis Cynghorau Dysgu a Sgiliau ac AALlau
Yn perswadio noddwyr o’r cyfraniad gwerthfawr ac unigryw y mae amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yn ei wneud i ysgogi dysgu
Yn cael defnyddwyr i fynd ati i ddysgu a'u hannog a'u cefnogi’n effeithiol yn eu dysgu
Yn dysgu a gweithredu ar eu dysgu eu hunain.
Gall lladmeryddion dysgu fod yn:
Aelodau o Gyrff Llywodraethol sy'n credu yng ngrym dysgu amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd
Staff uwch – cyfarwyddwr neu brif weithredwr
Staff dysgu a mynediad
Yr holl staff sy’n ymwneud â chefnogi dysgu (h.y. pawb yn yr amgueddfa, archifdy neu lyfrgell)
Cefnogwyr allanol neu asiantaethau sy’n gadarnhaol ynglŷn â rôl amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd i gefnogi dysgu e.e. mudiadau cyfeillion, rhieni, athrawon, tîm dysgu’r teulu neu ddarparwyr Sgiliau Sylfaenol.
Sut i gynyddu niferoedd a dylanwad lladmeryddion dysgu:
Arwain trwy esiampl – bydd eich brwdfrydedd yn ysbrydoli eraill
Cyfathrebwch yn weithredol fel bod eraill yn gwybod ac yn deall beth sy’n mynd ymlaen
Denwch gyllid drwy eich rhaglenni dysgu
Ewch i ymweld ag eraill ar eu telerau hwy a’u gwahodd yn ôl i’r amgueddfa, yr archifdy neu’r llyfrgell
Gweithiwch mewn partneriaeth ac adeiladu cysylltiadau uniongyrchol gyda’r bobl iawn ar y lefel iawn.
Am fwy o syniadau ar sut i gryfhau eich ymroddiad yn fewnol ac ennill mwy o gydnabyddiaeth am gyfraniad eich amgueddfa, eich archifdy neu eich llyfrgell i ddysgu, ewch i Sicrhau cefnogaeth ar gyfer dysgu a Mynd gam ymhellach.