2.
DEFNYDDIO’R FFRAMWAITH

Defnyddiwch y deunyddiau hyn i gyflwyno’r fframwaith a chynllunio gwelliannau yn eich amgueddfa, archifdy neu lyfrgell.
- Bydd Paratoi’r ffordd yn eich helpu i roi cychwyn ar y broses a dechrau siarad â chydweithwyr am yr hyn a olygwn wrth ddysgu
- Bydd Rhestrau gwirio Annog Addysg yn eich galluogi chi i asesu cryfderau presennol eich amgueddfa, archifdy neu lyfrgell a phennu meysydd ar gyfer gwella
- Mae Casglu Tystiolaeth yn awgrymu sut y gallwch ddangos eich bod yn cyflawni nodau Annog Addysg
- Mae Gweithredu yn darparu templed ac arweiniad ar gyfer datblygu eich cynllun gweithredu.
"Mae cydnabod bod dysgu a mynediad yn ganolog i ddysgwyr sy'n rhyngweithio gydag archifau yn hanfodol. Rwy’n croesawu Annog Addysg fel cam pwysig tuag at gyflawni hyn. Bydd yn galluogi’r gwasanaeth archifau i fesur ansawdd ac effaith eu dysgu a mynediad a datblygu gwasanaethau rhagorol i gefnogi dysgu." |  |
Sarah Tyacke, Yr Archifau Cenedlaethol
|  |
|
|