Fydd y dull hwn yn cynhyrchu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch?
A yw wedi'i lunio i gynhyrchu data ansoddol ynteu meintiol?
A oes modd iddo fesur ansawdd, amrediad ac amrywiaeth dysgu?
A yw'n syml i'w ddefnyddio a'i weinyddu?
A yw'n ddealladwy ac yn addas ar gyfer y grŵp targed?
Ydych chi angen defnyddio mwy nag un dull?
Amserlen - pa bryd fyddwch chi'n ymgymryd â'r ymchwil ac am ba hyd
Faint ydych chi eu hangen yn eich sampl?
Pwy fydd yn gwneud y gwaith ymchwil?
Bydd rhai o'r dulliau yn darparu gwybodaeth ansoddol i chi ac eraill yn darparu gwybodaeth feintiol.
Bydd data meintiol yn eich galluogi i asesu pa mor aml y mae pethau'n digwydd ac ymhlith pa segment o'ch cynulleidfa.
Bydd data ansoddol yn rhoi darlun manwl i chi o'r hyn sy'n digwydd, pa bryd ac o dan ba amgylchiadau.
Mae ymchwil feintiol yn darparu golwg gyffredinol ar y defnydd a wneir o ddysgu yn eich sefydliad. Mae'n galw am:
Nifer fwy o ymatebwyr i sicrhau bod y sampl yn gynrychioliadol
O leiaf 100 o gyfranogwyr i'ch galluogi i wneud honiadau sylweddol. Bydd maint y sampl yn amrywio yn unol â'r math o ymchwil a wneir gennych.
Gall maint y sampl gael ei dargedu at gategori arbennig o ddefnyddiwr neu gall gynrychioli croestoriad eang o ddefnyddwyr.
Cesglir gwybodaeth meintiol fel arfer drwy gyfrwng
Holiaduron ac arolygon yn cynnwys cwestiynau caeëdig neu amlddewis
Cyfweliadau yn seiliedig ar holiadur arolwg pryd y gwahoddir y sawl a gyfwelir i roi ei ymateb ef/ei hymateb hi i gyfres o gwestiynau caeëdig neu amlddewis.
Mae gwybodaeth ansoddol yn ddefnyddiol i archwilio a deall dysgu yn drylwyr. Bydd astudiaeth nodweddiadol yn cynnwys grŵp bychan o oddeutu 10-20 o gyfranogwyr. Gall y cyfranogwyr fod yn ddefnyddwyr cyffredinol neu yn grŵp a dargedwyd yn arbennig, megis:
Defnyddwyr tro cyntaf neu ddefnyddwyr rheolaidd
Disgyblion ysgol o Gyfnod Allweddol 3
Pobl ag anghenion arbennig
Pobl oedrannus
Pobl ifanc 16 - 24 oed
Cesglir gwybodaeth ansoddol fel arfer drwy gyfrwng
Cyfweliadau wyneb yn wyneb neu gyfweliadau ar y teleffôn