The Museums, Libraries and Archives Council (MLA) annog addysg
CYFLWYNIADDEFNYDDIO’R FFRAMWAITH MESUR DYSGU SICRHAU CEFNOGAETH MYND GAM YMHELLACHTro Cyntaf
3. MESUR DYSGU >> Camau yn y broses >> Dewis eich dull

Dewis eich dull

Moeseg

Athrawon yng Ngorllewin y Canolbarth mewn grwp ffocws am allbynnau dysgu mewn amgueddfeydd

Page 4 of 4

Byddwch yn creu perthynas fer gyda'r ymwelwyr neu'r defnyddwyr sy'n rhan o'ch ymchwil. Rhaid i chi fod yn glir paham eu bod yn gysylltiedig a sut y byddwch yn defnyddio'r wybodaeth unwaith y bydd wedi'i chasglu.

Ystyriwch y materion canlynol:

  • Gonestrwydd - ydy'r rhai sy'n ymwneud â'r ymchwil yn eglur ynglŷn â sut a pham y defnyddir hi? 
  • Perchnogaeth - ydych chi angen caniatâd i ddefnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd gennych? Gan bwy fyddwch chi angen derbyn caniatâd - yn enwedig ynglŷn â myfyrwyr neu blant?
  • Diogelwch - ydych chi wedi ystyried diogelwch y bobl sy'n gysylltiedig, gan gynnwys ymchwilwyr yn ogystal â'r rhai yr ydych yn eu targedu? 
  • Anhysbysrwydd a chyfrinachedd - allwch chi warantu hyn?
  • Didwylledd proffesiynol - ydych chi wedi cynnal hyn hyd eithaf eich gallu?

Arolwg cryno yw hwn ac mae'n bosib iawn fod gan eich sefydliad ei ganllawiau ei hun mewn perthynas â chasglu tystiolaeth. Gellir cael mwy o wybodaeth trwy'r dolenni isod:

British Sociological Association Statement of Ethical Practice http://www.britsoc.org.uk/about/ethic.htm

British Educational Research Association
http://www.bera.ac.uk/

Llwythwch i lawr Dulliau - cryfderau a gwendidau i ddarganfod mwy am wahanol ddulliau ymchwil.

Yn awr ewch i 'Datblygu eich arfau ymchwil' i barhau

blaenorol

1234

DOWNLOADS