Yn awr bydd angen i chi edrych ar ystyr ac arwyddocâd eich canlyniadau.
Ystyriwch y canlynol
Beth ydych chi'n ei wybod erbyn hyn am yr hyn a ddysgodd pobl?
Ydych chi'n parhau i fod angen darganfod mwy am fath arbennig o ddefnyddiwr neu fath o ddysgu?
Sut y mae hyn yn newid neu'n ychwanegu at y darlun sydd gennych eisoes?
Beth sydd a wnelo hyn â'r hyn yr ydych yn ceisio'i gyflawni fel sefydliad? Allwch chi gysylltu hyn yn ôl â chynllun gweithredu Annog Addysg a nodau a thargedau corfforaethol.
Sut ydych chi'n mynd i ddefnyddio'r dystiolaeth hon i'ch cynorthwyo i wella yr hyn a wneir gennych a chyflwyno achos gwell i gyllidwyr a rhanddeiliaid?
Cyflwyno eich tystiolaeth
Efallai eich bod ym meddwl am rai o'r canlynol.
Dangos i gorff cyllido sut y gall canlyniadau dysgu ddeillio o ganlyniad i ddefnyddio amgueddfa, llyfrgell neu archifdy
Profi cryfderau rhaglen neu wasanaeth arbennig sy'n annog dysgu
Dangos sut y gellir defnyddio'r CDCau i wella cynnwys ac ansawdd y dystiolaeth a ddarperir gennych i reolwyr uwch neu gorff llywodraethol
Bwydo tystiolaeth i gynlluniau ansawdd eraill megis CPA, Gwerth Gorau, BmP
Dangos i gydweithwyr lle y gallai'r bylchau yn eich ymarfer fod a sut y gellir defnyddio'r dystiolaeth i ddatblygu a gwella yr hyn a wneir gennych ar hyn o bryd
Bydd eich achos yn llawer cryfach os medrwch ddangos yn glir natur gadarn y broses a ddefnyddiwyd gennych gan fod hyn yn eich galluogi i siarad yn gywir a hyderus am eich canfyddiadau.
Llwythwch i lawr strwythur a awgrymir ar gyfer eich adroddiad yma
Os ydych chi eisiau darganfod mwy ynglŷn â sut y gallwch ddefnyddio'ch tystiolaeth i gael mwy o gydnabyddiaeth i'ch amgueddfa, archifdy neu lyfrgell, ewch i Sicrhau Cefnogaeth
Go to lessons from piloting to find out how pilots sites used the GLOs to help them measure learning.
Ewch i'r Gwersi a ddysgwyd o dreialu i ddarganfod sut y bu i safleoedd peilot ddefnyddio'r CDCau i'w cynorthwyo i fesur dysgu