Bydd y dull o godio yn amrywio yn unol â'r canlynol
Y math o arf a ddefnyddiwyd gennych - un ai un penagored neu'n seiliedig ar y pum CDC
Y math o ddata a gasglwyd gennych - data ansoddol neu feintiol
Medrwch roi cynnig ar godio rhai datganiadau dysgu ar y dudalen nesaf.
Awgrymwn hefyd eich bod yn rhoi cynnig ar godio oddi ar lein, gan weithio gyda chydweithwyr. Llwythwch i lawr y gweithgaredd hwn o'r panel llwytho i lawr perthnasol
Awgrymiadau ar godio
Gweithiwch gyda chydweithiwr i gytuno ar eich dull o godio a dehongli'r data
Rhowch drefn ar eich deunydd.
Nodwch eich data gwreiddiol (cyfweliadau, cardiau sylwadau, lluniau, holiaduron ayb.) gyda rhif cyfresol
Gwnewch gopïau wrth gefn o'r holl ddata a chadwch y gwreiddiol yn ddiogel
Defnyddiwch ymyl llydan ar gyfer nodiadau a sylwadau ochr yn ochr â'r data
Darllenwch drwy'r data a nodi unrhyw eiriau, ymadroddion neu syniadau sy'n rhoi tystiolaeth o'r CDCau. Gallai'r rhain fod yn y categorïau eang (gwybodaeth a dealltwriaeth ayb) neu medrwch dorri'r CDCau i lawr i is-themâu.
"profodd yr agwedd 'pin marcio' tuag at ddadansoddi yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig i bobl nad oeddent wedi arfer gwneud hyn. Mae'n dechneg syml a hawdd ei defnyddio. €¦.. [roedd yna] lawer o drafod a dadlau ynglŷn ag ystyr pob canlyniad o'i gymharu ag un arall, ond bu'r trafodaethau'n gymorth i ni ddeall mwy ar y canlyniadau"
Fiona Williams: Gwasanaeth Llyfrgelloedd Poole
Pethau i'w hosgoi: Codio gormodol
Efallai mai dim ond cysylltiadau gwan â'r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol y deuwch o hyd iddynt os ydych yn archwilio tystiolaeth a gasglwyd i bwrpasau gwahanol. Peidiwch â gorfodi'r datganiadau i ffitio un o gategorïau'r CDCau gan y byddai hynny'n lleihau gwerth a dilysrwydd eich tystiolaeth.
Ceisiwch:
Sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'r CDC
Dysgwch adnabod datganiadau am ganlyniadau dysgu
Gweithiwch gyda chydweithiwr a chymharu'r canlyniadau
Datblygwch neu addaswch eich arfau eich hun a chanolbwyntiwch ar gasglu data sy'n cynhyrchu tystiolaeth o ganlyniadau dysgu gan eich defnyddwyr
Osgowch orgyffwrdd â mwy nag un CDC
Weithiau gellir codio brawddeg mewn mwy nag un ffordd. Mae'r datganiad isod yn rhoi tystiolaeth o wybodaeth a mwynhad.
Mwynhaodd y plant y sesiwn cyfranogi a chawsant lawer o wybodaeth am fywyd ysgol yn nghyfnod Fictoria drwy brofiad uniongyrchol, Athrawes, Amgueddfa Knowsley.
Sut fyddech chi'n datrys hyn? Ewch i'r dudalen nesaf am awgrym
Beth yw eich dewisiadau codio?
Rhannwch ef yn ddau ddatganiad a chyfrif y ddau ohonynt Os penderfynwch godio datganiad ddwywaith eglurwch yn eich rhesymeg ei fod yn cynnwys dau ddatganiad dysgu
Codiwch ef unwaith, yn ôl pa GDC yw'r cryfaf Gallai hyn olygu eich bod yn gorsymleiddio canlyniadau'r profiad dysgu i'r plant, sy'n cynnwys sawl haen wahanol
Codiwch ef yn unol â'r CDC cryfaf ond disgrifiwch, er enghraifft, sut y gallai mwy o wybodaeth arwain at fwy o gymhelliad - a sut y mae'r ddau GDC yn cysylltu â'i gilydd. Dyma'r agwedd a argymhellir gennym ni
Mae dysgu'n gymhleth ac yn cynnwys sawl haen. Bydd cysylltiadau rhwng gwahanol lefelau, prosesau a chanlyniadau dysgu. Dylech adlewyrchu hyn yn eich dehongliad.