Dewiswch sampl o oddeutu 100 (o gardiau sylwadau, holiaduron) a ddychwelwyd
Cyfrifwch faint o ymatebwyr sydd wedi darparu tystiolaeth gref o ddysgu a nodwch y rhif hwn fel canran o'r cyfanswm ee: Bu i 64% o ymatebwyr wneud datganiadau cryf am ddysgu (64 allan o'ch sampl o 100).
Gosodwch y data mewn categorïau yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ceisio'i ddarganfod - oedran ee; oedolyn, plentyn - i weld sut y mae'r profiad dysgu wedi effeithio ar grŵp penodol o ddefnyddwyr - categorïau CDCau - i ddarganfod sut y mae'r dysgu'n perthnasu â phob un o'r CDCau - Is-themâu CDCau - torri'r categorïau i lawr ymhellach i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o ganfyddiadau defnyddwyr am eu profiad dysgu.
Efallai y penderfynwch wneud hyn drwy greu pentyrrau o'r data wedi'i godio ar y llawr, neu drwy dorri, pastio a rhoi'r rhain gyda'i gilydd. Neu medrwch osod yr ymatebion yn uniongyrchol ar ffurf taenlen.
Cyfrifwch y sylwadau ac yna defnyddio'r un dull i ddisgrifio canlyniadau eich ymchwil. Er enghraifft, os bydd 32 o'ch 64 cerdyn sylwadau defnyddiol yn cynnwys datganiadau cryf am ddatblygu sgiliau, medrwch hawlio bod 50% o'r datganiadau a wnaed am ddysgu yn dangos fod sgiliau newydd wedi cael eu datblygu
Yna dechreuwch gyferbynnu a chymharu a symud o ddisgrifiadau lefel cyntaf e.e. mae 50% o oedolion wedi datblygu sgiliau newydd
I ystyriaethau mwy treiddgar Ee: o'r 50% hynny, mae gan 26% well sgiliau TG a dywed 8% bod eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig wedi gwella.
Gellir cyflwyno'r data hwn fel siartiau bar neu unrhyw ffurf diagramatig arall mewn pecyn taenlen.