Dyma rai o'r canlyniadau cadarnhaol i'r rhai sy'n cymryd rhan yn y treialu
- Cynhyrchodd amrediad o wahanol ddulliau gwerthuso dystiolaeth llawer cyfoethocach o ddysgu nag o'r blaen
- Gellir ychwanegu ychydig o gwestiynau penodol i'r ffurflenni arolwg presennol i wella'n sylweddol y data a gesglir ar ganlyniadau dysgu. I gael effaith ar y sefydliad mae angen i'r holl staff chwarae rhan yn yr asesiad o ganlyniadau dysgu.
- Mae defnyddio'r CDCau yn agor trafodaethau mewnol am ddysgu - sy'n bwysig i ddatblygiad staff a gwella gwasanaethau i ddefnyddwyr
Gellir ymgorffori'r CDCau mewn cynlluniau busnes a'u defnyddio fel fframwaith ar gyfer gwerthuso
- Gellir defnyddio'r CDCau i ddatblygu brîff i benseiri a dylunwyr: Brîff Poole i'r penseiri ar gyfer y llyfrgell gymunedol newydd; ac ar gyfer datblygu arddangosfeydd: Seiliwyd datblygiad Amgueddfa Churchill yn Ystafelloedd Rhyfel y Cabinet ar y CDC. Llwythwch i lawr Frîff Amgueddfa Churchill
- Mae'r diddordeb o sectorau eraill yn awgrymu bod hyn yn rhywbeth y gellir ei gymhwyso'n llawer ehangach nag mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd.