The Museums, Libraries and Archives Council (MLA) annog addysg
CYFLWYNIADDEFNYDDIO’R FFRAMWAITH MESUR DYSGU SICRHAU CEFNOGAETH MYND GAM YMHELLACHTro Cyntaf
3. MESUR DYSGU >> Beth yw canlyniadau dysgu >> Beth sy'n newydd a chyffrous am hyn?

Beth sy'n newydd a chyffrous am hyn?

Cefnogaeth o safleoedd peilot

Cerflun o esgid wedi'i greu o bapurau'n mynnu tal treth y pen gan 'Jim' un a gymerodd rhan mewn gweithgaredd Amgueddfa Agored yng Nglasgow

Page 2 of 2

Ffoto o Fiona Williams, Ddiwylliant a Dysgu Cymunedol Poole

"Mae'r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol wedi rhoi iaith a fframwaith i ni ddangos i ddarparwyr dysgu mwy traddodiadol y cyfraniad unigryw a wneir gan lyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifdai i'r agenda ddysgu. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i ddatblygu partneriaethau dysgu lleol i gyflwyno buddion i'r gymuned yn seiliedig ar anghenion dysgwyr unigol. Bydd hefyd yn ein cynorthwyo i wneud ceisiadau mwy effeithiol am gyllid allanol gan y gallwn bellach ddangos canlyniadau dysgu."

Fiona Williams, gynt o Ddiwylliant a Dysgu Cymunedol Poole.

Ffoto o Moira Tarrant - Gwasanaethau Llyfrgell Essex

Creu iaith gyffredin

"Bu i'r CDCau fy ngalluogi i ddadansoddi ac adrodd ar ddata a oedd wedi profi'n anodd, yn anaddawol neu amhosibl eu mesur. Rhoesant i mi arf ieithyddol cyffredin i ddisgrifio yr hyn yr wyf yn ei alluogi mewn dysgwyr. Mae'r iaith yn glir, yn ddiamwys, ac yn bwysig iawn - yn rymus."

Moira Tarrant, Llyfrgelloedd Essex

Ffoto o Tom Mayberry, Archifdy Gwlad yr Haf

Datblygu ein dealltwriaeth a'n hymarfer

"Ni chyfiawnhawyd amheuon cychwynnol gan ganlyniad dadansoddi'r data. Er mai ychydig iawn o wybodaeth a gafwyd o ffurflenni sylwadau a chwynion safonol, ac arolygon defnyddwyr, yr oedd ffynonellau eraill mwy penodol yn annisgwyl o gynhyrchiol.
'Talodd yr ymarferiad yn ôl am y gwaith ar ei ganfed a rhoddodd gipolwg gwerthfawr mewn perthynas â'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gasglu data cyfoethog a'r ffyrdd mwyaf effeithiol o hyrwyddo dysgu."

Tom Mayberry, Archifdy Gwlad yr Haf

Ffoto o Corinne Miller, Uwch Guradur, Oriel Gelf Dinas Leeds

"I'r staff fu'n gysylltiedig, bu'r prosiect yn gyfle dysgu pwysig. I'r staff curadurol yr oedd y cysyniad o GDC yn anghyfarwydd, a bu'r ffordd y bu iddynt gymryd at gysyniad y cerdyn sylwadau yn ddadlennol, gan ddarparu mwy o ddealltwriaeth o effaith dysgu yr arddangosfeydd yn yr Oriel.
Hyd hynny, defnyddiwyd y wybodaeth hon fel arf rheolaethol i gynorthwyo gyda chyflwyno'r arddangosfa, ond bellach gellir ei defnyddio i nodi a phrofi effaith ein harddangosfeydd ar ddysgu."

Corinne Miller, Oriel Gelf Dinas Leeds

Llwythwch i lawr Grynodeb o Gynlluniau peilot CDC i weld sut y bu i'r safleoedd weithio gyda'r CDC.

Gellir llwytho i lawr astudiaethau achos manwl ynglŷn â threialu'r CDCau o'r adran Gwersi a dysgwyd o dreialu ar y wefan.

Yn awr ewch i Camau yn y broses i barhau

blaenorol

12

Dynes a bachgen yn mesur cynhwysion ar gyfer gweithgaredd gwneud papur a sêl yng Ngwasanaethau Archifau Sir Hampshire
Beth sy'n newydd a chyffrous am hyn?
DOWNLOADS