The Museums, Libraries and Archives Council (MLA) annog addysg
CYFLWYNIADDEFNYDDIO’R FFRAMWAITH MESUR DYSGU SICRHAU CEFNOGAETH MYND GAM YMHELLACHTro Cyntaf
3. MESUR DYSGU >> Beth yw canlyniadau dysgu
Dynes a bachgen yn mesur cynhwysion ar gyfer gweithgaredd gwneud papur a sêl yng Ngwasanaethau Archifau Sir Hampshire

Canlyniadau dysgu yw'r hyn a "ddysgwyd" gan bobl o ganlyniad i brofiad, rhaglen neu ddigwyddiad. Gallant fod: 

  • Yn benodol iawn (10 ffaith allweddol am yr Hen Roegwyr) ac yn eang iawn (datblygu agwedd fwy positif tuag at ddysgu)
  • Yn cael eu gosod gan sefydliadau neu gan y dysgwyr eu hunain
  • Yn cael eu defnyddio i asesu a disgrifio'r dysgu sydd wedi digwydd.

Ym maes addysg ffurfiol, yn aml penderfynir ar ganlyniadau yn annibynnol ar y dysgwr. Mewn rhaglenni heb eu hachredu, bydd dysgwyr yn aml yn gosod eu canlyniadau eu hunain.

Mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd mae gennym ddiddordeb mewn deall y dysgu sy'n digwydd mewn sefyllfaoedd anffurfiol, lle na fydd pobl efallai wedi mynd ati'n fwriadol i "ddysgu" rhywbeth, a lle bydd eu dysgu yn aml yn mynd i gyfeiriadau annisgwyl, ac sy'n peri syndod.

Canlyniadau dysgu mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd

Er bod llawer o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yn cynnal rhaglenni dysgu ffurfiol a dargedir, yn bennaf yr hyn a gynigir ganddynt yw amgylcheddau anffurfiol ar gyfer dysgu. 

Mae'n annhebygol y bydd rhywun yn meddwl yn benodol am ddysgu yn y sefyllfaoedd bob dydd canlynol:

  • Benthyg CD gerddorol o lyfrgell neu bori mewn arddangosfa gelf
  • Ymuno â grŵp darllen neu ddarganfod mwy am eu teulu neu eu hardal.

Er gwaethaf hyn, bydd pobl yn aml yn disgrifio'r profiadau hyn mewn ffyrdd sy'n dangos fod "dysgu" wedi digwydd ac rydym wedi casglu llawer o ddatganiadau sy'n dangos pa mor rymus y gall y dysgu hwn fod.

Fodd bynnag, hyd yma bu'n llawer mwy anodd dangos effaith cyffredinol amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ar ddysgu anffurfiol pobl, gydol oes.

Mae'r rhan hon o'r wefan a'r Canlyniadau Dysgu Cyffredinol wedi cael eu datblygu i'ch cynorthwyo i wneud yn union hynny.

"Mae fy mab 7 oed ar fin cael ei roi dan ddatganiad oherwydd fod ganddo ddyslecsia ac nad yw'n medru darllen. Mae'r Ddrysfa Ddarllen yn rhoi hunan gred iddo y gall fod yr un fath â phlant eraill a mwynhau'r pleser a geir o lyfrau."

*

Parent, Her Ddarllen yr Haf 2003

Beth yw canlyniadau dysgu