 | images/content/spacer.gif) | Mae Annog Addysg yn disgrifio’r prosesau arfer da a fydd yn eich galluogi chi i gyflwyno’r canlyniadau hyn. |
POBL – Darparu cyfleoedd dysgu mwy effeithiol
Rydych chi
- Yn cysylltu ac ymgynghori ag amrediad eang o bobl i ddatblygu cyfleoedd dysgu
- Yn darparu cyfleoedd i bobl ddysgu
- Yn ehangu’r amrediad o gyfleoedd dysgu ar gyfer cynnwys defnyddwyr newydd ac amrywiol
- Yn symbylu ymchwil a darganfod
- Yn gwerthuso canlyniadau dysgu gwasanaethau, rhaglenni a gweithgareddau.
LLEFYDD – Creu amgylcheddau dysgu sy'n ysbrydoli ac yn hygyrch
Rydych
- Yn creu amgylcheddau sy'n hybu dysgu
- Yn datblygu’ch staff i ddarparu cefnogaeth i ddysgwyr
- Yn hyrwyddo’ch hun fel man ar gyfer dysgu, ac ysbrydoliaeth.
PARTNERIAETHAU – Llunio partneriaethau dysgu creadigol
Rydych
- Yn pennu partneriaid posibl a gwerthuso manteision gweithio mewn partneriaeth i gefnogi dysgu
- Yn gweithio gyda’r partneriaid hyn i gynllunio a datblygu cyfleoedd dysgu
- Yn gwahodd pobl o du allan i’r amgueddfa, archifdy neu lyfrgell i ddod â phersbectifau newydd ac ehangu amrediad ac apêl y cyfleoedd dysgu.
POLISÏAU, CYNLLUNIAU, PERFFORMIAD – Gosod dysgu wrth galon yr amgueddfa, archifdy neu lyfrgell
Rydych
- Yn nodi a cheisio dylanwadu ar gynlluniau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol
- Yn adlewyrchu datblygiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol mewn cynlluniau a blaenoriaethau
- Yn dangos bod yr amgueddfa, archifdy neu lyfrgell yn sefydliad dysgu trwy brosesau gwerthuso a datblygu staff
Yn awr, ewch i’r adran 'Buddion' i barhau