The Museums, Libraries and Archives Council (MLA) annog addysg
CYFLWYNIADDEFNYDDIO’R FFRAMWAITH MESUR DYSGU SICRHAU CEFNOGAETH MYND GAM YMHELLACHTro Cyntaf
1. CYFLWYNIAD >> Beth ydy Annog Addysg?

Beth ydy Annog Addysg?

Gosod canlyniadau ar gyfer Annog Addysg

Paintiad Baum der Kulture - ystyr y teitl yw 'y goeden ddiwylliant'; mae'n llawn caligraffi

Page 2 of 3

Mae Annog Addysg yn ymwneud â chyflawni canlyniadau.

Mae’r rhain yn canolbwyntio ar y defnyddwyr a hefyd ar amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd fel sefydliadau. Bydd Annog Addysg yn eich helpu chi i ddangos eich bod yn cyflawni’r canlyniadau hyn.

Canlyniadau dysgu ar gyfer defnyddwyr

  • Mae pobl yn mwynhau’u hunain ac yn cael eu hysbrydoli a’u cyfoethogi gan y profiad
  • Mae pobl yn defnyddio'r gwasanaethau a’r cyfleusterau i ddatblygu'u gwybodaeth a’u dealltwriaeth
  • Mae pobl yn datblygu sgiliau o ganlyniad i ddefnyddio amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd
  • Mae pobl yn dod yn fwy hunanhyderus, yn gofyn mwy o gwestiynau, mae ganddynt fwy o gymhelliant ac yn agored i bersbectifau eraill
  • Mae pobl yn penderfynu gwneud rhywbeth gwahanol yn eu bywydau

Canlyniadau eraill i ddefnyddwyr 

  • Mae pobl yn teimlo eu bod yn cael croeso, parch a chefnogaeth gyda'u dysgu
  • Mae pobl yn cael mynediad i’r cyfleoedd dysgu y maent eu heisiau

Canlyniadau i’r amgueddfa, archifdy neu lyfrgell

  • Mae amrediad ehangach o bobl yn defnyddio’r amgueddfa, archifdy neu lyfrgell
  • Crëir cyfleoedd dysgu newydd o ganlyniad i bartneriaethau
  • Mae staff, gwirfoddolwyr ac aelodau cyrff llywodraethol yn eiriolwyr effeithiol dros ddysgu
  • Mae pobl sy’n gweithio yn y sefydliad ac ar ei ran yn dysgu ac yn datblygu'u hymarfer yn barhaus
blaenorol

123

nesaf
Merch ifanc mewn coch yn creu model technegol yn yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd, Duxford
Beth ydy Annog Addysg?
DOWNLOADS