The Museums, Libraries and Archives Council (MLA) annog addysg
CYFLWYNIADDEFNYDDIO’R FFRAMWAITH MESUR DYSGU SICRHAU CEFNOGAETH MYND GAM YMHELLACHTro Cyntaf
1. CYFLWYNIAD >> Beth a olygwn wrth ddysgu?

Beth a olygwn wrth ddysgu?

Dysgu mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd

Grwp o blant ysgol yn arlunio yn Oriel Gelf Neuadd Cartwright, Bradford

Page 2 of 3

Mae pobl yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd ac mae angen eu hysgogi mewn ffyrdd gwahanol. Mae amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd mewn sefyllfa unigryw i ddarparu profiadau amrywiol, ysgogol a phleserus i bobl o bob oed a gallu trwy’u harteffactau, adnoddau, storïau a chyfleusterau.

Mae’r datganiadau canlynol yn dangos grym y profiadau dysgu hyn:

"Mwynheais edrych ar y calchfaen ffosil gan fod y ffordd y cawsant eu rhewi mewn carreg yn rhyfeddol." Plentyn 12 oed ar ôl gweithdy lle defnyddiwyd Blwch Benthyciadau Gwyddoniaeth Ddaearegol, Coleg Prifysgol Llundain

"Welais i erioed Joe yn ysgrifennu cymaint o farddoniaeth – ffantastig. Diolch yn fawr - dangosodd ran o Joe i mi nad oeddwn wedi’i weld o’r blaen." Mam yn siarad am ei mab 7 oed ar ôl iddo fynychu gweithdy barddoniaeth yn yr arddangosfa ‘Rain or Shine’ yng Nghanolfan Celfyddydau Weledol Sainsbury, Prifysgol East Anglia, Norwich

"Mae’r cwrs wedi bod yn wych yn fy nghyflwyno i fyd cyfrifiaduron. Rydw i’n teimlo’n eithaf hyderus a gwybodus erbyn hyn o'i gymharu ag ofn a phanig llwyr! Mi ddof i’r llyfrgell yn gyson rŵan i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn yn hyderus." Oedolyn yn mynychu cwrs sgiliau sylfaenol TGCh 8 awr yn Llyfrgelloedd Wandsworth.

Llwythwch i lawr Meddylfryd Presennol – arddulliau dysgu ac agweddau gwahanol at ddysgu i chi gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ym maes theori ac ymarfer dysgu.

Llwythwch i lawr Gweithgarwch Arddulliau Dysgu i gael gwybod mwy am eich arddull dysgu personol chi.

"Harneisio pŵer pethau go iawn, gwreiddiol - dyna beth ydy dysgu mewn amgueddfeydd a dyna beth fydd Annog Addysg yn ein helpu i wneud".

Kate Osborne, Gwasanaeth Amgueddfeydd Exeter

blaenorol

123

nesaf
Merch ifanc mewn coch yn creu model technegol yn yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd, Duxford
Beth a olygwn wrth ddysgu?
DOWNLOADS