Dyma’r hyn y mae'n ei olygu
Trafod yr hyn a olygwch wrth ddysgu yng nghyd-destun eich amgueddfa, archifdy neu lyfrgell
- Sefydlu tîm i arwain y broses
- Archwilio eich darpariaeth gwasanaethau gan ddefnyddio rhestrau gwirio Annog Addysg i ganfod eich cryfderau a meysydd i’w gwella
- Pennu tystiolaeth i ddangos eich bod yn bodloni nodau penodedig Annog Addysg a phenderfynu lle mae'r bylchau yn eich tystiolaeth
- Datblygu cynllun gweithredu er mwyn gwella eich gwasanaethau a'r gefnogaeth gyffredinol i ddysgwyr
- Asesu canlyniadau dysgu ar gyfer defnyddwyr. Ar gyfer hyn, gallwch ddefnyddio’r system canlyniadau dysgu cyffredinol a esbonnir yn llawn yn yr adran Mesur Dysgu ar y wefan. Bydd y dystiolaeth a gasglwch am ganlyniadau dysgu yn cyfrannu at eich cynlluniau gweithredu ac yn cefnogi’ch gwaith eiriol
- Datblygu achos cadarn a strategaeth eiriolaeth a fydd yn eich helpu chi i sicrhau cefnogaeth ar gyfer dysgu yn fewnol ac yn allanol
- Defnyddio hyn i gyd i ddatblygu unigolion, timau a’ch sefydliad
Yn awr ewch i "Beth ydy Annog Addysg?" i barhau