The Museums, Libraries and Archives Council (MLA) annog addysg
CYFLWYNIADDEFNYDDIO’R FFRAMWAITH MESUR DYSGU SICRHAU CEFNOGAETH MYND GAM YMHELLACHTro Cyntaf
1. CYFLWYNIAD >> Sut ydym wedi cyrraedd yma?

Sut ydym wedi cyrraedd yma?

Cefndir a threialu

Dynes yn gyrru tram wedi'n adfer yn yr Amgueddfa Dramffyrdd Genedlaethol, Crich.

Page 1 of 4

Dyma’r cynllun polisi o bwys cyntaf sy’n dwyn ynghyd amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ar lefel gwasanaeth, rhanbarthol a chenedlaethol. 

Ers mis Tachwedd 2000 mae dros 700 o bobl ar draws y DU wedi cyfrannu at ddatblygu Annog Addysg. Dyma rai pethau y canfu MLA:

  • Mae llawer o safbwyntiau gwahanol am yr hyn a olygir wrth ddysgu
  • Credai rhai pobl na fyddai byth yn bosibl deall beth y mae pobl wedi'i ddysgu o gyfnod cymharol fyr yn ymwneud ag amgueddfa, archifdy neu lyfrgell
  • Roedd mynd ati i ddatblygu rhywbeth a fyddai’n gweithio i’r holl grwpiau hyn yn her fawr
  • Cytunai pawb fod dod o hyd i ffyrdd o ddeall ein defnyddwyr a diwallu’u hanghenion dysgu yn gwbl ganolog i'r hyn yr ydym i gyd yn ei wneud.

Mae datblygu a threialu Annog Addysg a’r pecyn Mesur Dysgu eisoes wedi dechrau newid persbectifau ymarferwyr. Er enghraifft, canfu llawer o’r 31 safle peilot nad oedd ganddynt fawr o syniad am yr hyn yr oedd y defnyddwyr yn ei ddysgu a sut oeddynt yn teimlo. Erbyn hyn, maent wedi cyflwyno neu fireinio’r gweithdrefnau ar gyfer ymgynghori, gwerthuso a mesur dysgu ac wedi dechrau newid rhai o’r pethau y maent yn eu gwneud.

Gallwch ganfod mwy am yr hyn wnaeth rai o’r safleoedd peilot trwy lwytho i lawr y Crynodeb o brofiadau'r safleoedd peilot.

Yn awr ewch i’r dudalen nesaf am restr o’r bobl a oedd yn gysylltiedig â'r prosiect.

Ffoto o Katrina Siliprandi,  Gwasanaeth Amgueddfeydd ac Archaeoleg Norfolk

"Bu Annog Addysg yn fodd i ysgogi trafodaethau am ddysgu, canfod gwahaniaethau, cytuno ar ddealltwriaeth ac esbonio i ba gyfeiriad y dylem fod yn mynd fel gwasanaeth."

Katrina Siliprandi,
Gwasanaeth Amgueddfeydd ac Archaeoleg Norfolk

1234

nesaf
Merch ifanc mewn coch yn creu model technegol yn yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd, Duxford
Sut ydym wedi cyrraedd yma?
DOWNLOADS