 Mae Annog Addysg yn disgrifio sut olwg sydd i amgueddfa, archifdy neu lyfrgell hygyrch a chynhwysol sy'n ysgogi a chefnogi dysgu. Mae'n eich gwahodd i wneud y canlynol
- Canfod beth y mae'r bobl sy'n defnyddio'ch gwasanaethau’n ei ddysgu
- Asesu pa mor dda yr ydych yn sicrhau arfer gorau wrth gefnogi dysgu
- Gwella’r hyn yr ydych yn ei wneud
Mae dysgu yn uchel ar agendâu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol erbyn hyn. Bydd Annog Addysg yn trawsnewid y ffordd a ddefnyddir gan amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd i ddarparu dysgu a chael defnyddwyr i fynd ati i ddysgu.
'Mae amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd mewn sefyllfa unigryw i ddod â phobl i gysylltiad â phrofiadau a safbwyntiau gwahanol, a all newid eu bywydau yn sylweddol.' |  |
Sue Wilkinson, MLA |  |
|