Staff addysg a lladmeryddion dysgu - datblygu eich rôl
Gall Annog Addysg fod yn arf sy’n gweddnewid, yn sefydliadol ac yn bersonol.
Fel lladmeryddion dysgu neu staff addysg, mae’n debygol y gelwir arnoch i:
Ffurfio grŵp traws-sefydliad i weithredu Annog Addysg
Adeiladu’r tîm a chytuno ar eich amcanion
Adeiladu partneriaethau i gwrdd â’ch amcanion
Arwain ar y cynllun – cynnwys a darbwyllo staff uwch a rhanddeiliaid.
Fel lladmeryddion dysgu neu staff addysg a dysgu:
A oes gennych chi lais strategol?
Ydych chi wedi’ch cynrychioli’n uniongyrchol ar y tîm rheoli?
Oes gennych chi neu eich cydweithwyr dysgu fynediad at aelodau etholedig neu ymddiriedolwyr
Ydych chi yn ymwneud â chynlluniau corfforaethol, neu a ddygir chi i mewn i gynghori ar faterion yn ymwneud ag ysgolion yn unig?
Mae angen i chi ddatblygu eich hun a’ch rôl er mwyn bod yn ddylanwadol ar lefel strategol.
Dyma rai o’r pethau y gallech eu gwneud:
Cynllunio eich datblygiad proffesiynol eich hun – dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu meddwl a chynllunio strategol
Dod i gael eich cynnwys mewn cynllunio strategol fel bod pobl yn eich gweld fel meddyliwr ochrol, ac nid yn unig fel arbenigwr dysgu
Sicrhau fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau cyfredol – bydd eich brwdfrydedd, arbenigedd ac ymroddiad i’r agenda ddysgu yn darbwyllo eraill
Datblygu eich sgiliau hwyluso – dod yn sgilgar wrth reoli grwpiau ar lefel gyfartal.
Adeiladu rhwydweithiau dysgu a chefnogi – dod o hyd i gydweithwyr ac eraill y medrwch rannu eich dysgu â hwy, ac y medrwch ddysgu oddi wrthynt
Ehangu eich rôl eich hun – er enghraifft, cynllunio gweithgareddau i ddatblygu darllenwyr neu glybiau ar ôl ysgol, neu chwarae rhan yn y gwaith o ddatblygu arddangosfeydd newydd
Cyfathrebu’n effeithiol – bwydo syniadau tuag i fyny yn ogystal ag at i lawr; mewn amgylcheddau anffurfiol (caffi/coridorau) yn ogystal ag mewn cyfarfodydd
Ymestyn eich hun – ceisio cyfleoedd i weithio y tu allan i’ch ‘maes cyfforddus’.