Ystyriwch y canlynol:
- Cymerwch agwedd strwythuredig tuag at eich datblygiad personol parhaus (DPP). Mae gan gyrff proffesiynol megis CILIP, Cymdeithas yr Amgueddfeydd, Cymdeithas yr Archifyddion ac UKIC fframweithiau DPP ar gyfer aelodau. Ewch i’r adran Adnoddau i gael y cysylltiadau hyn.
- Rhannwch arfer da a datblygiad proffesiynol gyda'ch cydweithwyr. Llwythwch i lawr Rhannu arfer da yn Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth i ddarllen sut y gwnaed hyn gan yr amgueddfa honno.
- Mae codi proffil a datblygu galluoedd staff dysgu yn allweddol i weithredu Annog Addysg yn llwyddiannus.
- Meddyliwch am eich anghenion datblygu eich hun. Er enghraifft, bydd sgiliau rhyngbersonol a chreu cysylltiadau yn dod yn gynyddol bwysig i'r holl staff. Ewch i’r dudalen nesaf i archwilio a ydych yn meddu’r priodoleddau sy’n debygol o wneud gwahaniaeth.
|