 Mae gan Annog Addysg oblygiadau sylweddol i amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd. Mewn rhai lleoedd, bydd gweithio gyda’r fframwaith hwn yn rhoi cychwyn i symudiad sylfaenol yn yr amgueddfa, archifdy neu lyfrgell, a bydd yn golygu:
- Gwrando ar ein defnyddwyr a'u cynnwys
- Cydweithio â phartneriaid newydd a dysgu oddi wrthynt
- Cwmpasu a chyfleu dealltwriaeth eang o'n rôl ym myd dysgu
- Cynnwys aelodau o staff a chyrff llywodraethol fel dysgwyr hefyd
Mae Mynd Gam Ymhellach yn tynnu ar brofiad yr amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd fu’n treialu Annog Addysg yn 2002-2003, a’r meysydd ble y teimlent yr oedd y fframwaith yn cyfrannu fwyaf tuag at eu datblygiad. "Yr hyn a hoffaf i am Annog Addysg yw nad ydy o’n brawf i lwyddo neu fethu ynddo. Ble bynnag yr ydych yn dechrau, medrwch ddod o hyd i bethau i’w gwella a dadleuon cryf dros wneud hynny sy’n darparu tystiolaeth gadarn i gefnogi ceisiadau am fuddsoddi, nid yn unig yn ein sefydliadau ond i ddatblygu’r arfer o ddysgu." |  |
Kathy Gee, MLA Gorllewin Canoldir Lloegr
|  |
|