- Ymdriniwch â phartner fel un cyfartal ‘tra’n cydnabod y gall (yr amgueddfa/archifdy/llyfrgell) fod y cryfaf o'r ddau fel ymgorfforiad o awdurdod diwylliannol'. Byddwch yn ymwybodol o’r effaith y gallai’r syniad hwn ei gael ar bartneriaeth newydd
- Caniatewch amser i sefydlu’r bartneriaeth; gosodwch nodau realistig
- Holwch am gynlluniau partneriaid: efallai eu bod yn ymwneud â rhaglen allai ategu eich prosiect chi
- Byddwch yn glir am eich agenda eich hun, ac agenda eich partneriaid Archwiliwch yn agored ac yn onest:
- Beth yw ein hamcanion
- Beth yw eich amcanion
- Ble mae’r amcanion sy’n gyffredin rhyngom?
- Ble mae ein hamcanion yn mynd ar wahân?
Sicrhewch fod y trafodaethau’n digwydd nid yn unig ar lefel uchaf y sefydliad, ond ar y lefel leol hefyd
- Byddwch yn onest am ymrwymiadau amser. Byddwch ag agwedd hyblyg tuag at gynllunio cyfarfodydd, gweithdai ayb.
- Sefydlwch ddulliau gweithio a phroses adolygu sy’n dderbyniol i bawb
- Cydnabyddwch efallai y bydd yn rhaid i chi newid dulliau gwaith sydd wedi gwreiddio’n ddwfn – efallai y bydd gweithio’n wahanol yn elfen sylfaenol o’ch partneriaeth
- Derbyniwch fod yna risgiau mewn gwaith partneriaeth. Fydd yr holl ganlyniadau ddim yn gadarnhaol i’r amgueddfa, archifdy neu lyfrgell. Cydnabyddwch wrthdaro a gwahaniaethau a defnyddiwch y rhain fel cyfle dysgu
- Byddwch yn onest am sgiliau, gallu a phrofiad a nodwch anghenion datblygu wrth drafod gyda phartneriaid
- Os nad yw’r bartneriaeth yn gynhyrchiol, gwnewch rai newidiadau, neu dewch allan ohoni. Pa mor gynaliadwy yw eich partneriaeth?
Ewch i’r dudalen nesaf am awgrymiadau.